GRAVELLS CYDWELI GIVE A CAR AS A PRIZE FOR THE 2023 CARMARTHENSHIRE URDD EISTEDDFOD RAFFLE
Gravells Cydweli have given a Kia Picanto car as a raffle prize to the Urdd Eisteddfod which will be held in Carmarthenshire in 2023. The raffle will be sold over the next year and the eisteddfod’s Organising Committee are thrilled to being able to co-operate with Gravells again this year. Gravells’ generosity to the Urdd in Carmarthenshire over the years has been remarkable as they also gave a car for the 2007 Carmarthenshire Urdd Eisteddfod raffle.
Jonathan Gravell – Owner of Gravells said:
"We have a long history of supporting the Urdd and I am delighted to be supporting the Urdd Eisteddfod which will be taking place in my home county of Carmarthenshire in 2023. We wish the team every success in their fundraising to make Carmarthenshire's Eisteddfod a great success, offering wonderful opportunities to so many children and young people. We would like to thank our customers who support us, a family business which supports local clubs and community organisations for the benefit of us all."
Gethin Thomas, the Chair of the Finance Committee, arranged for the car to be provided and Gethin said:
“As the finance committee and organising committee for the 2023 Urdd Eisteddfod in Carmarthenshire we are extremely grateful to Gravells in Cydweli for the gift of the Kia Picanto car for the Raffle. I would like to thank Jonathan Gravell for his generosity and his continuing support to our efforts to raise the funding for the Eisteddfod which will be held in Llanymddyfri in May and June 2023.”
GRAVELLS CYDWELI YN RHOI CAR YN WOBR AR GYFER RAFFL FAWR EISTEDDFOD YR URDD SIR GAERFYRDDIN 2023
Mae Gravells Cydweli wedi rhoi car Kia Picanto fel rhodd i Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 ar gyfer eu raffl fawr. Bydd y raffl yn cael ei gwerthu dros y flwyddyn nesaf ac mae Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod wrth eu bodd o fod yn gallu cyd-weithio fel hyn unwaith eto gyda Gravells. Mae haelioni’r cwmni i’r Urdd yn Sir Gaerfyrddin dros y blynyddoedd wedi bod yn aruthrol gan i gar hefyd gael ei roi ar gyfer raffl Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr yn 2007.
Dywedodd Jonathan Gravell – Perchenog Gravells:
“Mae gennym hanes hir o gefnogi’r Urdd dros y blynyddoedd ac rwy wrth fy modd yn cael gwneud hynny unwaith eto yn 2023, a hynny yn y Sir Gaerfyrddin lle dwi’n byw. Rydym yn dymuno pob llwyddiant i’r tîm wrth iddynt fynd ati i godi arian er mwyn gwneud Eisteddfod Sir Gaerfyrddin yn llwyddiant anferthol, gan gynnig pob math o gyfleuon i gynifer o blant a phobl ifanc. Hoffem ddiolch i’n cwsmeriaid sy’n ein cefnogi bob amser a ninnau yn fusnes teuluol sy’n cefnogi clybiau a chymunedau lleol er mwyn budd pob yr un ohonom.”
Trefnwyd i gael y car gan Gethin Thomas sy’n Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar gyfer yr Eisteddfod a dywedodd Gethin:
“Fel pwyllgor cyllid a phwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 rydym yn hynod o ddiolchgar i gwmni Gravells Cydweli am y rhodd o gar Kia Picanto i’n Raffl Fawr. Carwn ddiolch i Jonathan Gravell am ei haelioni, ei garedigrwydd a’i gydweithrediad llwyraf wrth ein cefnogi i godi arian i’r Eisteddfod fydd yn yn cael ei chynal yn Llanymddyfri fis Mai a Mehefin 2023.”